Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (64)v4 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. |
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) |
3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Trawsnewid—Cyflawni ar y Cyd (30 munud) |
4. Rheoliadau Iechyd Meddwl (Atgyfeiriadau Gofal Sylfaenol a Chymhwysedd i Gynnal Asesiadau Iechyd Meddwl Sylfaenol) (Cymru) 2012 (15 mins) NDM4983 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Iechyd Meddwl (Atgyfeiriadau Gofal Sylfaenol a Chymhwysedd i Gynnal Asesiadau Iechyd Meddwl Sylfaenol) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ebrill 2012. Dogfennau
Ategol
|
5. Dadl ar Law yn Llaw at Iechyd – adroddiad cynnydd chwe mis (60 munud) NDM4981 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r cynnydd wrth weithredu “Law yn Llaw at Iechyd”. Mae “Law yn Llaw at Iechyd” ar gael ar y ddolen hon:
http://wales.gov.uk/topics/health/publications/health/reports/together/?lang=cy Cynnwys ar ddiwedd y cynnig: “ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) dangos atebolrwydd llwyr am y GIG; a b) amlinellu’n glir y rhesymau ariannol a chlinigol dros unrhyw gynigion i ad-drefnu ysbytai. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod agenda Llywodraeth Cymru, ‘Law yn Llaw at Iechyd’ yn cynnwys cynlluniau i leihau nifer y safleoedd ysbytai sy’n darparu gwasanaethau damweiniau ac achosion brys 24/7 o dan law meddyg ymgynghorol. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod y consensws trawsbleidiol yn erbyn israddio ysbytai lleol a gwasanaethau iechyd ar draws Cymru. Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi manylion llawn unrhyw newidiadau arfaethedig i ddarpariaethau gwasanaethau’r GIG o ganlyniad i ‘Law yn Llaw at Iechyd’, cyn gynted â phosibl er mwyn gallu hwyluso trafodaethau deallus yn lleol. |
6. Dadl ar bolisi Teithio Byw Llywodraeth Cymru (60 munud) NDM4982 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn ystyried polisïau teithio llesol Llywodraeth Cymru, a photensial teithio llesol o ran mynd i’r afael â thlodi, gwella iechyd y cyhoedd a lleihau allyriadau nwyon ty gwydr. Gellir gweld polisïau teithio llesol Llywodraeth Cymru trwy ddilyn y ddolen isod:
http://wales.gov.uk/topics/transport/integrated/walkingcycling/?skip=1&lang=cy Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi â phryder nad yw Cymru, ar hyn o bryd, ar y llwybr cywir i gyrraedd targedau allweddol a gaiff eu diffinio yng Nghynllun Gweithredu Cerdded a Beicio Llywodraeth Cymru. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrian De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi’r sylwadau a wnaeth Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd yn ei Adroddiad Blynyddol cyntaf, y bu cynnydd y Llywodraeth yn ansicr o ran annog newid ymddygiad tuag at ddewisiadau teithio doethach. Mae Adroddiad Blynyddol Cyntaf Comisiwn Cymru ar y
Newid yn yr Hinsawdd ar gael drwy fynd i: Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi adroddiad blynyddol ar effaith gronnol ei mentrau teithio byw ar allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru. Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod llwybrau cerdded a llwybrau beicio lleol wedi’u cysylltu â’i gilydd a chanolfannau teithio eraill er mwyn creu llwybrau rhanbarthol a chenedlaethol hyfyw. Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y dylid ei gwneud yn orfodol i bob datblygiad cynllunio mawr ystyried yr angen am fynediad rhwydd i gerddwyr a beicwyr. |
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 16 Mai 2012